Croeso i'r Cwrs

Helo, a chroeso i'r cwrs. Diolch am gofrestru. Mae'n braf eich cael chi yma!

Mae Helpu eich Plentyn yn ei Arddegau i Ddysgu yn becyn llawn cymorth, a'i fwriad yw rhoi popeth sydd ei angen arnoch chi i gefnogi eich plentyn i ddysgu, rhwng 13 ac 16 oed yn benodol. 

Mae saith adran i'r cwrs:

  • Cyflwyniad: Helpu eich Plentyn yn ei Arddegau i Ddysgu
  • Meddwl am Ddysgu
  • Meithrin Gwytnwch
  • Dyfnhau Gwybodaeth
  • Miniogi Sgiliau
  • Cefnogi Gwaith Adolygu
  • Chwarae, Ymgysylltu a Mwynhau

Gallwch weithio eich ffordd drwy'r rhain yn eu trefn, neu mewn unrhyw drefn arall sy'n eich siwtio chi. F'unig gyngor fyddai i chi wneud Adran 1 yn gyntaf, gan fod hon yn gosod y sylfaen ar gyfer popeth sydd i ddilyn.

Ym mhob adran, mae pedwar fideo, canllaw ymarferol a thaflen dwyllo. Yn Adrannau 5, 6, 7, mae adnoddau ychwanegol hefyd. Mae'r rhain yn adnoddau parod y gallwch eu defnyddio i gefnogi eich plentyn i ddysgu ac adolygu.

Mae'r fideos yn llawn syniadau ac arweiniad ar agweddau allweddol ar ddysgu. Mae'r canllawiau yn rhoi strategaethau, gweithgareddau a thechnegau ymarferol y gallwch eu defnyddio gyda'ch plentyn (ac mae croeso i chi eu newid, eu haddasu a'u datblygu er mwyn iddynt weithio i chi). Ac mae'r taflenni twyllo yn grynodebau cryno ar un dudalen, sy'n dangos y negeseuon allweddol o bob adran, ac yn eich atgoffa o'r adnoddau ymarferol sydd yn y canllawiau. Mae cyfanswm o fwy na hanner cant o strategaethau ymarferol yn y canllawiau, ynghyd â 30 o strategaethau adolygu eraill yn yr adnodd ychwanegol yn Adran 6. Felly digonedd i chi eu defnyddio a'u rhannu efo'ch plentyn.

Yn olaf, mae llyfr gwaith i gyd-fynd â'r cwrs. Mae hwn i'w weld ar ddiwedd yr adran hon. Mae dau fersiwn - un y gallwch ei olygu ar-lein ac un arall i'w argraffu gartref. Dewisol ydi'r llyfr gwaith. Cymerwch olwg a phenderfynu a ydych chi eisiau ei ddefnyddio neu beidio. Os ydych chi, gwych! Os ddim, mae hynny'n iawn hefyd. Y peth pwysicaf yw i chi ddefnyddio'r cwrs a'r deunyddiau mewn ffordd sy'n gweithio i chi.

A dyna ni wedi gorffen y cyflwyniad, wedi cyflwyno'r cwrs ac wedi sôn am y pethau ymarferol. Y cyfan sydd ar ôl i mi ei ddweud yw bob lwc a gobeithio y gwnewch chi fwynhau'r cwrs. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n wych am helpu eich plentyn i ddysgu.


Gwybodaeth am Mike

Mae Mike yn awdur mwy na 40 o lyfrau ar ddysgu ac addysgu, gan gynnwys sawl gwerthwr gorau. Mae o wedi ysgrifennu mwy na 90 canllaw yn ymdrin â gwahanol agweddau ar arferion yn yr ystafell ddosbarth ac mae ei waith wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg, Iseldireg, Hebraeg, Arabeg, a Tsieinëeg. Mae adnoddau addysgu ar-lein Mike ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd erioed, wedi'u gweld a'u lawr lwytho mwy na 4 miliwn gwaith gan athrawon mewn mwy na 180 o wledydd a thiriogaethau.

Mae Mike yn gweithio gydag ysgolion, colegau llywodraethau yn y DU a thramor. Mae’n darparu hyfforddiant, gwasanaethau gwella ysgolion ac ymgynghoriaeth ar ddysgu ac addysgu, i safon uchel. Yn ogystal, mae’n gweithio gyda busnesau ac elusennau sydd eisiau cefnogi athrawon a dysgwyr, gan eu helpu i greu cynnwys unigryw ar-lein.

Athro yng nghanol Llundain oedd Mike ar ddechrau ei yrfa, cyn iddo fynd ati i sefydlu Gershon Learning Limited yn 2014. Cafodd ei addysg ym mhrifysgolion Efrog a Llundain, ac ennill graddau mewn Hanes a Chymdeithaseg, yn ogystal â TAR o’r Sefydliad Addysg. Darllenwch fwy am www.mikegershon.com ac edrych ar gwrs Mike i rieni plant 5 i 12 oed ar www.helpyourchildtolearn.com


Complete and Continue